Fe ges i gwestiwn yn ddiweddar trwy sylw ar y blog yn gofyn am fy mhrofiadau o ysgrifennu blog yn ddwyieithog. A dyma fi’n meddwl… Www! Rhywbeth diddorol i ysgrifennu am!
Mae blogio yn ddwyieithog yn anodd! (wel, i mi beth bynnag)
Dwi’n siŵr fod rhai ohonoch wedi gweld bod y cynnwys Cymraeg a Saesneg ychydig yn wahanol, mae hynny oherwydd dwi ddim yn meddwl fod “cyfieithu” cynnwys ddim yn gweithio’n dda iawn. Mewn rhai achosion, di’r cyfieithiad ddim yn gwneud synnwyr, neu yn colli’r ystyr ‘gwreiddiol’, ac mae rhaid ail-ysgrifennu rhai tameidiau.
Efallai hefyd fod nawr yw’r amser gorau i gyfaddef fy mod i’n tueddu ysgrifennu’r rhan Saesneg yn gyntaf, ac wedyn gweithio ar y fersiwn Cymraeg. Dwi’n siŵr fy mod i wedi trafod o’r blaen am y drafferth dwi’n cael yn ysgrifennu yn y Gymraeg (yn bennaf oherwydd fy mod i ddim yn wych yn gwneud y peth tra bo fi yn yr ysgol, a fy mod i heb wneud am amser maith cyn i mi ddechrau gyda’r blog unwaith eto). Mae gen i ofn yn aml o’r “snobs ieithyddol” sy’n bodoli yn y Gymraeg, y bobl sy’n gas i chi os di’r treigliad ddim yn hollol gywir, neu os bod chi’n defnyddio iaith anffurfiol yn lle iaith ffurfiol. Mae’n peri ofn i mi weithiau, ac yn gwneud fi’n llai tebygol o ysgrifennu rhywbeth cyhoeddus. Dwi ddim yn meddwl fod yr un drafferth yn bodoli yn y Saesneg yn bellach ar y we, efallai oherwydd bod y snobs ieithyddol Saesneg wedi hen dianc i ysgrifennu llythyron cas i’r Times neu’r Telegraph.
Dwi’n sicr mai dim ond angen ymarfer sydd angen arna, a gwnâi gwella fel dwi’n gwneud mwy, a gwnâi dysgu sut i boeni llai am sylwadau cas. Tan ‘ny, fydd rhaid i chi ddiodde’ gyda’n Cymraeg lletchwith, a’n ymgais pitw i ysgrifennu yn y Saesneg.
Tan tro nesaf!
I was asked recently in a comment about my experiences of bilingual blogging. It seemed like a pretty decent topic, and the result is this…
It’s *bloody* difficult.
The more eagle-eyed (or bored) amongst you may have noticed that the Welsh and English content isn’t exactly the same, and that’s becasue I don’t really think “translating” blogposts works terribly well. Phrases work in one language that don’t make sense in the other (or that there isn’t an equivalent phrase in the other language), so it becomes necessary at times to re-write passages to get the same content across.
I feel also it may be time for a confession, much to my dismay, I do tend to write this in English first, and then work on the Welsh version. I think I’ve spoken before about the difficulties I’ve had in writing again in Welsh (mostly because I wasn’t amazing at it in School, and until I’d re-started the blog, I’d not written in a few years). There is an intangible fear at times of the “Language Snobs” in Welsh, the people who sneer if you don’t use a mutation correctly, or ridicule you in a public forum for using informal language where they thought formal language was more appropriate. It’s a bit of a confidence knock, and it makes you a little gun-shy. I don’t think it exists in the same way in English, maybe because the concept of an ‘English’ web has been around for more, and all the pedants have given up and gone back to writing surly letters to the Times or the Telegraph. Or maybe it’s just me…
I suppose that practice makes master, and the more I keep writing, the better I’ll get at it and eventually I’ll learn to ignore mean-spirited criticism. Until then, you’ll all have to put up with my stilted Welsh posts, and my meager attempts at posts in English.
Until next time.
B