Dwi wedi bod yn ystyried ers peth amser beth yw’r peth gorau i wneud hefo’r blog ag ati, yn ddiweddar dwi’n gweld fod hi’n haws o beth llawer ysgrifennu neges Trydar (
@bryns) nag eistedd lawr ac ysgrifennu traethawd sydd dwi’n siŵr erbyn hyn ond yn cael ei ddarllen gan sbamwyr ag ati. Y meddwl sydd gen i yw cyfuno rhai o’r pethau gwe 2.0 dwi’n defnyddio mewn i un dudalen a gadael i bawb cael darllen. Yn anffodus, yn y gorffennol, dyw pethau fel ‘na ddim wedi mynd lawr yn dda (dwi’n cofio pobl yn cwyno fod nhw ddim eisiau darllen fy ffrwd twitter ar y blog ac yn y blaen).
Wedi dweud hynna, mae’r blog oeliaf yn rhoi siawns i mi naddu’r rhannau ‘na o’n hymennydd sy’n gyfrifol am ysgrifennu (ychydig llai ‘na) creadigol rhag grebachu (rhywbeth dwi’n teimlo sy’n digwydd i mi dyddiau ‘ma). Felly fydd rhaid i mi wneud fwy o ymdrech i ddefnyddio’r hyn sydd gennai.
Oh, i’r rhai ohonoch sydd yn dilyn y ffrwd RSS, mae hi nawr yn bosib i chi ddilyn yn un iaith neu’r llall, i chi cael y ffrwd Cymraeg, dilynwch y linc ‘ma i’r ffrwd Cymraeg. Neu Os bod chi eisiau, dyma’r ffrwd Saesneg. Os bod chi eisiau dilyn holl gynnwys y blog mewn iaith arbennig (sy’n cynnwys y lluniau o’n dudalen Flickr), tynnwch “author=1″ oddi ar ddiwedd cyfeiriad y ffrwd.
Hwyl am nawr.
B
I’ve been considering for some time now what’s the best thing to do with this blog. I’ve found recently that it’s far easier to post a message to
Twitter (
@bryns) than sitting down to write an essay which I’m sure is only read by spammers now. I’ve been contemplating bringing together all the web 2.0 things I post to under one site, which doesn’t go down well with some (based on past experiences).
Having said that, the blog does at least give me a chance to excercise that part of my brain with responsilbitiy for (not particularly) creative writing, and stoping it atrophy (something which I feel is happening to me of late). So I guess putting a bit more effort into it won’t do any harm.
Oh, for those who follow by RSS, I should probably tell you that you can now follow a particular post language, rather than have to scroll past one to reach the other. There’s a link to the Welsh feed, and a link to the English feed. If you want to follow the feed for the whole site in a particular language (including the photos I cross-post from my Flickr page), then knock off the “author=1″ from the end of the feed address.
Bye for now.
B